![]() |
|---|
| English | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||||||||||
Mae Cass yn un o brif unawdwyr ffidil a'r crwth ac yn arbenigo mewn cerddoriaeth Gymreig. Yn ogystal â gweithio fel unawdydd, mae'n chwarae mewn deuawdau gyda’r gitarydd Nial Cain, y pibydd a’r fliwtydd Ceri Rhys Matthews a’r chwaraewraig crwth Estoniadd Sofia Joons. Mae’n aelod o Pigyn Clust a bu’n chwarae gyda Fernhill rhwng 2000 a 2004 ac yn ymddangos gyda Esyllt Harker yn y sioe caneuon a chwedlau gwerin 'Ganthrig Bwt' Rhyddhawyd ‘crwth’, albwm unawd gyntaf Cass Meurig ym mis Ionawr 2004 ar label enwog Fflach : tradd. Cerddorion gwadd ar y record yw Nigel Eaton (perwg) a Bob Evans (crwth). Cynhyrchwyd gan Ceri Rhys Matthews. Fel y CD cyntaf yn y byd o gerddoriaeth y crwth yn unig, mae’r record hwn yn treiddio’n ddwfn i mewn i’r traddodiad cerddorol Cymreig gan gyfuno cerddoriaeth draddodiadol gyda chyfansoddiadau newydd. Mae cyfoeth swn ‘ y crwth hwn, croyw a thyner’ yn creu profiad dwys, swynol. O fyd sain pell Cymru’r canol oesoedd drwy ddwylo creadigol un o gerddorion gwerin gorau Cymru, dyma gerddoriaeth i’r enaid.Cliciwch fan hyn am fwy o fanylion Crwth , cliciwch fan hyn am restr gigiau |
||||||||||||||
|
||||||||||||||