Albwm newydd – Rwy’n credu

Casgliad o ganeuon ffydd newydd gan y gantores a’r offerynwraig Gristnogol Cass Meurig yw ‘Rwy’n Credu’.

Cliciwch yma i brynu’r CD Rwy’n credu.

Mae caneuon Cass yn cyfuno ysgrythur, caneuon gwerin a myfyrdod ar fywyd. Maent yn siarad am ffydd, cariad, llawenydd a gobaith ac yn deillio o berthynas agos gyda Iesu. Wrth iddi ffindio ysbrydoliaeth yn ei ffydd ei hun a’i siwrne bywyd, mae Cass yn plethu adnodau o’r Beibl ac alawon Cymreig hyfryd, gan gyfeilio i’w hun yn feistrolgar ar ffidil, crwth, fiola, gitâr a piano.

Cafodd albwm diwetha Cass o ganeuon Cristnogol, ‘Taith’ ei ryddhau yng Ngŵyl Coda a bu Cass yn perfformio ar Dechrau Canu Dechrau Canmol a ledled Cymru. Yn ystod cyfnodau clo Covid wnaeth Cass ryddhau nifer o osodiadau litwrgaidd ar alawon gwerin Cymraeg ar ei Sianel Youtube. Buont yn boblogaidd ar gyfer gwasanaethau ar-lein ac maent bellach yn ffefrynnau gyda chynulleidfaoedd drwy Gymru.

Bydd ffans niferus ‘Taith’ yn caru ‘Rwy’n Credu’. Dyma gerddoriaeth i’r enaid.

Cliciwch ar deitl y gân am y geiriau:

Galwad
Rwy’n credu
Mae Iesu’n fy ngharu
Dwêd wrth dy Dduw
Llawenydd
Os daw gofid
Caniad
Gobaith i’r ddaear
Trugaredd
Iesu’r Arglwydd yw