 |
Mae Cass Meurig yn un o brif unawdwyr Cymru ar y crwth a'r ffidil werin ac yn aelod o’r grwp gwerin Pigyn Clust. Yn ogystal â gweithio fel unawdydd, mae'n gweithio mewn deuawdau gyda’r gitarydd Nial Cain, y pibydd a’r fliwtydd Ceri Rhys Matthews a’r chwaraewraig crwth Estoniadd Sofia Joons. Bu’n chwarae gyda Fernhill rhwng 2000 a 2004 a hefyd gyda Pondman, band Gorwel a Fiona Owen. Ymddangosodd ar drydedd a phedwaredd albwms Fernhill 'whilia' a 'hynt', ac ar ail albwm Pigyn Clust 'Perllan'. Gyda’r chwedleuwraig Esyllt Harker creuodd ‘Ganthrig Bwt’, sioe yn cynnwys chwedlau gwerin o Gymru a’i tu hwnt, caneuon a cherddoriaeth y crwth. Cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yw ei phrif ddiddordeb. Ym mis Ionawr 2004 rhyddhawyd crwth, albwm unawd cyntaf Cass ar label fyd-enwog fflach: tradd (2004). Cliciwch fan hyn am fwy o fanylion Crwth
Mae gan Cass ddoethuriaeth gan Brifysgol Cymru, Bangor ar gerddoriaeth y ffidlwr yn y ddeunawfed ganrif.Mae'n siaradwraig brofiadol ar y pwnc a bu'n traethu darlithoedd yn y North Atlantic Fiddle Convention yn Aberdeen (Gorffennaf 2001) a chynhadledd y Ganolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Gymreig ym Mangor ym 1999 a 2001. Mae 'Alawon John Thomas', golygiad Cass o lawysgrif John Thomas o alawon ffidil, ar gael o safle we Lyfrgell Genedlaethol Cymru www.llgc.org.uk Mae'n cynnwys tua 450 o alawon wedi'u casglu yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru o gwmpas y flwyddyn 1752 a thestun sylweddol allan o ddoethuriaeth Cass sydd yn rhoi gwybodaeth am gyd-destun hanesyddol a cherddorol y llawysgrif a hanes yr alawon. |